Y Drefn Arholi am Aelodaeth Sylfaenol

Llwythwch i lawr
Ffeil PDF

Papur 1 Aelodaeth Sylfaenol – Cyfieithu o'r Saesneg i'r Gymraeg 2/10/04

cliciwch yma i ddalwytho'r ddogfen

Papur 2 Aelodaeth Sylfaenol – Cyfieithu o'r Gymraeg i'r Saesneg 2/10/04

cliciwch yma i ddalwytho'r ddogfen

Papur 1 Aelodaeth Sylfaenol – Cyfieithu o'r Saesneg i'r Gymraeg 27/03/04

cliciwch yma i ddalwytho'r ddogfen

Papur 2 Aelodaeth Sylfaenol – Cyfieithu o'r Gymraeg i'r Saesneg 27/03/04

cliciwch yma i ddalwytho'r ddogfen

Papur 1 Aelodaeth Sylfaenol – Cyfieithu o'r Saesneg i'r Gymraeg 4/10/03

cliciwch yma i ddalwytho'r ddogfen
Papur 2 Aelodaeth Sylfaenol – Cyfieithu o'r Gymraeg i'r Saesneg 4/10/03
cliciwch yma i ddalwytho'r ddogfen

Papur 1 a 2 Aelodaeth Sylfaenol – Cyfieithu o'r Saesneg i'r Gymraeg ac o'r Gymraeg i'r Saesneg 05/04/03

cliciwch yma i ddalwytho'r ddogfen

Papur 1 a 2 Aelodaeth Sylfaenol – Cyfieithu o'r Saesneg i'r Gymraeg ac o'r Gymraeg i'r Saesneg 05/10/02

cliciwch yma i ddalwytho'r ddogfen

Dyma fydd camau'r drefn arholi:

1. Bydd y Gymdeithas yn cynnal arholiadau am Aelodaeth Sylfaenol o leiaf ddwywaith y flwyddyn, fel arfer yn y Gwanwyn ac yn yr Hydref. Hysbysebir yr arholiad yn ystod Chwefror a Medi gan wahodd ceisiadau ond bydd croeso i gyfieithydd gyflwyno ei enw ar gyfer sefyll yr arholiad unrhyw bryd.

2. Oddeutu mis cyn yr arholiad bydd Swyddog Gweinyddol y Gymdeithas yn anfon gwybodaeth am yr arholiad ynghyd â’r ffurflen gofrestru at bob un sydd wedi cyflwyno ei enw.

3. Er mwyn cofrestru ar gyfer yr arholiad rhaid i'r ymgeisydd ddychwelyd y ffurflen at y Swyddog Gweinyddol a siec am £40.00* (neu £20.00* os yw'n ddi-waith) wedi ei gwneud yn daladwy i 'Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru'. Bydd y Swyddog Gweinyddol yn anfon derbynneb am y siec at yr ymgeisydd cyn pen pythefnos.

4. O leiaf bythefnos cyn dyddiad yr arholiad, bydd y Swyddog Gweinyddol yn hysbysu'r ymgeisydd o ddyddiad, amser a lleoliad yr arholiad ac o’i rif ar gyfer yr arholiad.

5. Cynhelir yr arholiad o dan oruchwyliaeth y Gymdeithas. Fel arfer, aelod o’r Bwrdd Arholi neu’r Pwyllgor Llywio fydd yn goruchwylio’r arholiad. Ni fydd y ddau aelod o’r Bwrdd Arholi a fydd yn marcio’r sgriptiau yn cael gweithredu fel Goruchwylwyr yr arholiad arbennig hwnnw.

6. Caiff yr ymgeisydd sefyll yr arholiad gan gynhyrchu cyfieithiadau mewn llawysgrifen neu drwy eu hargraffu gan ddefnyddio cyfrifiadur. Caiff ddefnyddio unrhyw feddalwedd sydd wedi’i osod ar y cyfrifiadur hwnnw ac eithrio unrhyw feddalwedd cof cyfieithu.

7. Os bydd ymgeisydd yn dymuno defnyddio cyfrifiadur, bydd yn gwneud hynny ar ei fenter ei hun. Bydd y Gymdeithas yn gwneud ei gorau glas i sicrhau bod peiriannau ac argraffwyr yn gweithio ond ni fydd yn cymryd unrhyw gyfrifoldeb am offer cyfrifiadurol canolfan arholi a logir ganddi. (Bydd croeso i ymgeisydd drefnu gweld y peiriannau ymlaen llaw).

8. Caniateir i ymgeiswyr ddod ag unrhyw eiriaduron, cyfeirlyfrau neu feddalwedd gyfrifiadurol y dymunant eu defnyddio gyda hwy i’r arholiad, ond ni chânt fenthyg llyfrau ymgeiswyr eraill yn ystod yr arholiad.

9. Bydd pob ymgeisydd yn nodi ei rif ymgeisydd ar frig ei sgript arholiad, ond ni fydd yn rhoi ei enw ar unrhyw sgript. Bydd yn rhoi ei enw a’i rif ar y ffurflen sydd i’w chyflwyno gyda’r sgript.

10. Cynhelir yr arholiad o dan drefn arholiad arferol. Y Goruchwyliwr fydd yn penderfynu beth y dylid ei wneud os bydd amgylchiadau’n tarfu ar yr arholiad.

11. Bydd y papurau arholiad yn para 1.5 awr yr un a byddant yn cynnwys dau ddarn i’w cyfieithu.

12. Rhaid i’r ymgeisydd lwyddo ym mhob darn, ac asesir y cyfieithu o safbwynt ystyr, cywair, cystrawen a chywirdeb. Rhaid llwyddo yn y ddwy elfen olaf cyn y gellir llwyddo yn yr arholiad. Y marc llwyddo yw 60.

13. Os bydd ymgeisydd yn torri gair ag ymgeisydd arall yn llafar neu’n ysgrifenedig, ni chaiff barhau â’r arholiad. Os yw’n dymuno ailymgeisio, rhaid iddo ddilyn y drefn uchod a thalu ffi ymgeisio o £40.00* (neu £20.00* os yw’n ddi-waith) i’r Gymdeithas unwaith eto. Os digwydd yr amgylchiadau hynny yr eildro, ni chaiff ymgeisio eto am bum mlynedd.

14. Bydd pob ymgeisydd yn cael ei arholi’n ddienw. Bydd dau farciwr yn marcio’r sgriptiau yn unol â chanllawiau marcio’r Gymdeithas, gan roi marc amdanynt. Os methir â rhoi marc, anwybyddir yr asesiad, a gofynnir i aelod arall o’r Bwrdd Arholi farcio, ond nid aelod a fu’n goruchwylio. Bydd y marcwyr yn marcio’n annibynnol ac yna yn trafod gyda’i gilydd cyn cyrraedd marc terfynol.

15. Cyfeirir unrhyw sgriptiau nad oes cytundeb a ydynt yn deilwng o aelodaeth sylfaenol i sylw Canolwr a bydd ei ddyfarniad ef yn derfynol.

16. Caiff yr holl farciau a sylwadau’r Canolwr eu hystyried gan y Bwrdd Arholi.

17. Unwaith y bydd y Swyddog Gweinyddol wedi cael dyfarniad terfynol y Bwrdd Arholi ar y sgriptiau bydd yn rhoi gwybod drwy lythyr i bob ymgeisydd am ganlyniad ei gais gan amgáu ffurflen ymaelodi os yw wedi llwyddo.

18. Cyhoeddir y canlyniadau ddiwedd Mai a diwedd Tachwedd. Cyhoeddir enwau ymgeiswyr llwyddiannus yn unig yn y Cylchlythyr/ar y Wefan.

* Nid yw’r ffi arholi yn cynnwys tâl aelodaeth am y flwyddyn.

TREFN ASESU AM AELODAETH GYFLAWN

1. Gellwch ddewis cael eich asesu yn cyfieithu un ffordd neu’r ddwy ffordd. Os dewiswch gael eich asesu yn cyfieithu un ffordd yn unig bydd y Cyfeirlyfr yn nodi pa iaith yr ydych wedi ennill cymhwyster i gyfieithu iddi.

2. Os ydych yn cyfieithu i un iaith yn unig dylech gyflwyno dau ddarn cyferbyniol sy’n dangos eich gallu i gyfieithu i’r iaith honno. Os ydych yn cyfieithu i’r Gymraeg ac i’r Saesneg, dylech gyflwyno dau ddarn o waith cyferbyniol yn dangos eich gallu i gyfieithu i’r Gymraeg a dau waith cyferbyniol yn dangos eich gallu i gyfieithu i’r Saesneg. Awgrymir bod pob darn o waith yn oddeutu 500 gair. Rhaid cynnwys y darnau gwreiddiol gyda’ch cyfieithiadau.

3. Dylai’r darnau fod yn rhai heriol sy’n dangos hyd a lled eich dawn a’ch gallu i gyfieithu.

4. Ni ddylech gyflwyno darnau a ddefnyddiwyd mewn asesiad blaenorol.

5. Ni ddylech gyflwyno cyfieithiadau a fu drwy drefn gyhoeddi neu a olygwyd gan rywun arall.

6. Ni chewch gyflwyno gwaith sy’n gyfieithiad o ddarn gwreiddiol a luniwyd gennych chi eich hun.

7. Wrth gyflwyno’r gwaith dylech gynnwys datganiad yn tystio mai eich gwaith chi ydyw a’ch gwaith chi yn unig. Dylech hefyd gynnwys geirda Cyflogwr neu Gomisiynydd yn tystio i safon eich gwaith.

8. Dylech amgáu’r ffurflen gofrestru ynghyd â’r tâl ymgeisio o £40.00* gyda’r gwaith, y datganiad a geirda’r Cyflogwr. (Caniateir gostyngiad i £20.00* os ydych yn ddi?waith/yn Aelod Sylfaenol/yn Gyfaill).

 

Cynnwys

  Cyflwyniad
  Aelodaeth Sylfaenol
  Aelodaeth Gyflawn
  Aelodaeth Cyfieithu ar y Pryd
  Cyfeillion
     
  FAQ's
     
     
 
Tâl Aelodaeth
Cyflawn: £120 y flwyddyn
Sylfaenol:   £110 y flwyddyn
Cyfeillion:   £60 y flwyddyn
Aelodaeth CAP   £120 y flwyddyn

   
 

 
cliciwch yma i ddychwelyd i'r Hafan
Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru, Bryn Menai, Ffordd Caergybi, Bangor, Gwynedd, LL57 2JA
Ffôn 01248 371 839
Ffacs 01248 371850